Alboka

Oddi ar Wicipedia
Alboka
Mathsawl piben gydag un frwynen yr un Edit this on Wikidata
GwladGwlad y Basg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn chwyth Basgeg traddodiadol yw'r Alboka, gyda dwy frwynen sengl fel a geir mewn clarinét .[1][2] Mae'n debyg iawn i'r bibgorn Gymreig.

Mae dau diwb annibynnol yn yr offeryn, felly gellir canu dau nodyn ar yr un pryd. Ceir amrywiaeth o ran traw: yn Arratia yn Bizkaia caent eu tiwnio i A♭, ac yn Zegama yn Gipuzkoa caent eu tiwnio i A♯. Fel rheol, mae gan alboka 5 twll ar yr ochr chwith, a 3 thwll ar yr ochr dde.[3] Caiff ei gyfeilio fel arfer gan pandero, sef tambwrîn, er mwyn perfformio alawon porrusalda a chaneuon gorymdeithio traddodiadol[4]. Wrth chwarae, dylid defnyddio anadlu crwn[5].

Daw'r enw o Arabeg : al-bûq (البوق).

Rhannau'r alboka wedi eu labelu yn Basgeg.
Grŵp traddodiadol gyda o Zeanuri, gydag albokas a thambwrinau
Grŵp cyfoes fel rhan o Ŵyl Txalaparta2008 yn Hernani ger Donostia, gyda dau alboka a thambwrîn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]